Bob Hope | |
---|---|
Ganwyd | Leslie Townes Hope 29 Mai 1903 Eltham |
Bu farw | 27 Gorffennaf 2003 Toluca Lake |
Label recordio | RCA Victor |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | digrifwr, canwr, ysgrifennwr, sgriptiwr, actor teledu, paffiwr, cyflwynydd radio, actor ffilm, cyflwynydd teledu, actor llwyfan, actor llais, dawnsiwr, actor |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Dolores Hope |
Gwobr/au | Knight Commander with Star of the Order of St. Gregory the Great, Gwobrau Peabody, Y Medal Celf Cenedlaethol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Marchog Urdd Sant Sylvester, Gwobr Dyneiddiaeth Jean Hersholt, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Medal y Rhyddid, Gwobr Horatio Alger, Anrhydedd y Kennedy Center, 'Hall of Fame' Golff y Byd, honorary doctor of the Ohio State University, KBE, Golden Plate Award, Golden Globes, Gwobr Emmy, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Trustees Award |
Gwefan | http://www.bobhope.com/ |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
llofnod | |
Roedd Leslie Townes "Bob" Hope (29 Mai 1903 – 27 Gorffennaf 2003) yn ddigrifiwr ac actor ffilm yn yr Unol Daleithiau a aned yn Eltham, Lloegr. Mae Bob Hope yn enwog yn arbennig am y ffilmiau comedi a wnâi gyda Bing Crosby, yn enwedig y dilyniant "Road to" yn y 1940au a'r 1950au cynnar (e.e. Road to Morocco, 1942).
Ganwyd Hope yn Eltham, Sir Llundain[1] (sydd nawr yn rhan o Greenwich), mewn tŷ teras ar Craigton Road yn Well Hall,[2][3] lle mae nawr blac glas yn ei goffau.[4] Ef oedd y pumed o saith mab i dad o Sais, William Henry Hope, saer man o Weston-super-Mare, a mam o Gymraes, Avis (née Townes), canwr opera ysgafn o'r Y Barri, Bro Morgannwg[5], a weithiodd yn ddiweddarach fel glanhawr. Priododd William ac Avis yn Ebrill 1891 a bu'r ddau yn byw yn 12 Greenwood Street yn y Barri cyn symud i ardal Whitehall, Bryste, ac yna i ardal St George. Wedi cyfnod byr yn byw yn Southend Road, Weston-Super-Mare,[6] yn 1908, allfudodd y teulu i'r Unol Daleithiau gan deithio ar fwrdd yr SS Philadelphia. Fe wnaethon nhw basio drwy Ynys Ellis, Efrog Newyd ar 30 Mawrth 1908, cyn teithio ymlaen i Cleveland, Ohio.[7]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search